WRW yn galaru am golled trist eu Cyfarwyddwr, Raymond Gravell - Yr 2il o Dachwedd, 2007

Gyda chalon drom mae Grwp WRW yn cyhoeddi marwolaeth sydyn ac ymadawiad trasig ein cydweithiwr a’n cyfarwyddwr, a edmygwyd yn fawr, Raymond Gravell.



Cafodd Raymond drawiad ar ei galon pan ar ei wyliau gyda’r teulu yn Sbaen a bu farw ar ddydd Mercher 31ain Hydref 2007.

Mae’r cwmni yn estyn ei gydymdeimlad dwys i Mari a’i dwy ferch Manon a Gwenan ac mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn.

Roedd Ray yn ddyn addfwyn a diymhongar oedd yn ymgorfforiad o Gymreictod. Roedd ei gampau rygbi yn chwedlonol ac ers ei ymddeoliad o’r gêm aeth ymlaen i feistrioli ym myd y cyfryngau ac adnabyddir  ef drwy Gymru gyfan.

Mae ei gysylltiadau gyda Grwp WRW yn ddwfn yn hanes y cwmni ac yn deillio o’i berthynas agos gyda fi a fy nheulu ers y chwedegau.

O fewn ei swydd fel cyfarwyddwr daeth Raymond a’i ochr gystadleuol a’i frwdfrydedd i’r cwmni ac roedd yn llysgennad heb ei ail, bydd hi’n amhosib llenwi'r bwlch enfawr fydd ar ei ôl.

Ni anghofir byth ei anwylder, ei ddiffuantrwydd na’i falchder am y cwmni a phob un ohonom fel unigolion, a byddwn yn parhau i ddenu ysbrydoliaeth a chryfder o’i gofio.

Er cof a chydymdeimlad am Gymro anhygoel, cydweithiwr a’m cyfaill - Raymond Gravell

Robert Williams
Cadeirydd Grwp WRW
1af Tachwedd 2007

<< Back